Ennillydd y Cynhyrchiad Dawns Gorau – Gwobrau Theatr Cymru 2015

Gwraig y bardd Dylan Thomas oedd Caitlin Thomas. Dechreuodd fynychu cyfarfodydd Alcoholigion Anhysbys ddechrau’r saithdegau, ugain mlynedd wedi i’w gŵr farw.

Llwyfennir y gwaith y tu fewn i gylch o gadeiriau, wedi eu gosod yn barod ar gyfer cyfarfod AA. Mae’n gyfle i Caitlin wynebu ei hoes dymhestlog hir. Mae’r gynulleidfa yn eistedd gyda hi ac yn dyst wrth iddi olrhain perthynas gariadus, rwystredig, genfigenus ac anffyddlon. Mae perfformiadau’r dawnswyr yn eofn, tyner a ffyrnig wrth i Caitlin a Dylan yfed, ymgecru, ymladd a charu a gadael ei gilydd. Mae hanner cadeiriau’r cylch yn cael eu taflu a’u siabwrtho wrth i Caitlin adrodd ei hanes cythryblus.

£10 / £8

 

Click here to find out more